Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 8:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. “Ar yr amodau hyn felly y mae'r Rhufeiniaid wedi gwneud cytundeb â phobl yr Iddewon.

30. Ond heblaw'r amodau hyn, os bydd y naill neu'r llall yn dymuno ychwanegu neu ddirymu rhywbeth, cânt wneud hynny o'u gwirfodd; bydd unrhyw ychwanegiad neu ddirymiad yn ddilys.

31. “Ynglŷn â'r drygau y mae'r Brenin Demetrius yn eu gwneud i'r Iddewon, yr ydym wedi ysgrifennu ato fel hyn: ‘Pam y gosodaist dy iau mor drwm ar ein cyfeillion a'n cynghreiriaid yr Iddewon?

32. Yn awr, os achwynant arnat eto, byddwn ni'n achub eu cam, ac yn ymladd yn dy erbyn ar fôr a thir.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 8