Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 8:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Er hyn i gyd ni fyddai'r un ohonynt yn gwisgo coron nac yn ymddilladu â phorffor, i gael ei fawrhau trwy hynny;

15. ond adeiladasant senedd-dy iddynt eu hunain, a byddai tri chant ac ugain o seneddwyr beunydd yn ymgynghori'n gyson ynghylch y bobl, gyda golwg ar eu llywodraethu'n dda.

16. Y maent yn ymddiried bob blwyddyn mewn un dyn i reoli drostynt a bod yn feistr ar eu holl dir; y maent oll yn gwrando ar yr un dyn hwn, heb na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.

17. Felly dewisodd Jwdas Ewpolemus fab Ioan, fab Accos, a Jason fab Eleasar, a'u hanfon i Rufain er mwyn sefydlu cyfeillgarwch a chynghrair,

18. a'u cael i godi'r iau oddi arnynt; oherwydd gwelsant fod teyrnas y Groegiaid yn llwyr gaethiwo Israel.

19. Teithiasant i Rufain, taith bell iawn, a mynd i mewn i'r senedd-dy a llefaru fel hyn:

20. “Jwdas, a elwir hefyd Macabeus, a'i frodyr a phobl yr Iddewon a'n hanfonodd ni atoch i sefydlu cynghrair a heddwch gyda chwi, er mwyn cael ein cofrestru'n gynghreiriaid a chyfeillion ichwi.”

21. Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,

22. a dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasant yn ateb, ar lechi pres, a'i anfon i Jerwsalem i fod gyda'r Iddewon yno yn goffâd o heddwch a chynghrair:

23. “Pob llwyddiant i'r Rhufeiniaid ac i genedl yr Iddewon ar fôr a thir yn dragywydd, a phell y bo cleddyf a gelyn oddi wrthynt.

24. Os daw rhyfel yn gyntaf i Rufain neu i un o'u cynghreiriaid o fewn eu holl ymerodraeth,

25. bydd cenedl yr Iddewon yn eu cefnogi fel cynghreiriaid o lwyrfryd calon, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 8