34. Ymbaratôdd ei luoedd i ryfel, a chanu'r utgyrn. Dangosasant i'r eliffantod sudd grawnwin a mwyar i'w cyffroi i ryfel.
35. Yna rhanasant yr anifeiliaid rhwng y minteioedd, gan osod i bob eliffant fil o wŷr traed, yn arfog mewn llurigau, a helmau pres ar eu pennau, ynghyd â phum cant o wŷr meirch dethol ar gyfer pob anifail.
36. Byddai'r rhain yno ymlaen llaw lle bynnag y byddai safle'r anifail, ac i ble bynnag y byddai'n mynd, byddent hwythau'n mynd gydag ef, heb ymadael ag ef.
37. Ar gefn pob eliffant yr oedd tŵr cadarn o bren i lochesu ynddo, wedi ei rwymo wrth bob anifail ag offer arbennig, ac ym mhob un ohonynt yr oedd pedwar o wŷr arfog parod i ryfel, ynghyd â'r Indiad o yrrwr.
38. Gosododd Lysias weddill y gwŷr meirch ar bob ochr, ar ddwy ystlys y fyddin, er mwyn iddynt aflonyddu ar y gelyn yng nghysgod y minteioedd.
39. Pan ddisgleiriai'r haul ar y tarianau aur a phres, fe ddisgleiriai'r mynyddoedd ganddynt, a goleuo fel ffaglau ar dân.