Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 6:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ond yn awr daw i'm cof y drygau a wneuthum yn Jerwsalem, sef dwyn ymaith yr holl lestri arian ac aur oedd ynddi, a gorchymyn distrywio trigolion Jwda heb achos.

13. Gwn mai ar gyfrif hynny y daeth y drygau hyn arnaf; a dyma fi'n trengi o ofid mawr mewn gwlad estron.”

14. Yna galwodd am Philip, un o'i Gyfeillion, a'i osod yn llywodraethwr ar ei holl deyrnas.

15. Rhoes iddo ei goron a'i fantell a'i fodrwy, fel y gallai hyfforddi ei fab Antiochus, a'i feithrin i fod yn frenin.

16. Felly bu farw'r Brenin Antiochus yno yn y flwyddyn 149.

17. Pan glywodd Lysias am farw'r brenin, gosododd Antiochus, y mab yr oedd wedi ei feithrin o'i fachgendod, i ddilyn ei dad ar yr orsedd, a galwodd ef Ewpator.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 6