Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 4:38-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Gwelsant y cysegr wedi ei ddifrodi, yr allor wedi ei halogi, y pyrth wedi eu llosgi, a llwyni'n tyfu yn y cynteddau fel mewn cwm coediog neu ar ochr mynydd. Yr oedd ystafelloedd yr offeiriaid hefyd yn adfeilion.

39. Rhwygasant eu dillad, gan alaru'n ddwys, a thaenu lludw ar eu pennau;

40. ac yn sŵn utgyrn y defodau syrthiasant ar eu hwynebau ar y ddaear a chodi eu llef i'r nef.

41. Yna gosododd Jwdas wŷr i ymladd yn erbyn y rhai oedd yn y gaer, tra byddai ef yn glanhau'r cysegr.

42. Dewisodd offeiriaid dilychwin, ymroddedig i'r gyfraith,

43. i lanhau'r cysegr a symud y cerrig a'i halogai i le aflan.

44. Wedi ymgynghori beth i'w wneud ag allor y poethoffrwm a oedd wedi ei difwyno,

45. penderfynasant yn gwbl gywir ei thynnu i lawr rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnynt, oherwydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi. Felly tynasant yr allor i lawr,

46. a chasglu'r cerrig i'w cadw mewn man cyfleus yng nghyffiniau bryn y deml, hyd oni chyfodai proffwyd i ddyfarnu arnynt.

47. Yna cymerasant gerrig heb eu naddu, yn unol â gofynion y gyfraith, ac adeiladu allor newydd ar batrwm y gyntaf.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 4