Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 3:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Wedi iddo orffen siarad, gwnaeth ymosodiad sydyn ar y gelyn, a drylliwyd Seron a'i fyddin o'i flaen.

24. Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid.

25. Yna dechreuwyd ofni Jwdas a'i frodyr, a syrthiodd braw ar y Cenhedloedd o'u hamgylch.

26. Daeth ei fri i glustiau'r brenin, ac yr oedd sôn ymhlith y cenhedloedd am frwydrau Jwdas.

27. Pan glywodd y Brenin Antiochus y newydd yma, aeth yn ddig dros ben, a gorchmynnodd gasglu ynghyd holl luoedd ei deyrnas, yn fyddin gref iawn.

28. Agorodd ei drysorfa, a rhoi cyflog blwyddyn i'w filwyr, a gorchymyn iddynt fod yn barod ar gyfer unrhyw anghenraid.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 3