Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 3:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Nesaodd at fwlch Beth-horon, lle daeth Jwdas i'w gyfarfod gyda chwmni bychan.

17. Pan welodd ei ganlynwyr y fyddin yn dod i'w cyfarfod, dywedasant wrth Jwdas, “Sut y gallwn ni, a ninnau'n gwmni bychan, frwydro yn erbyn y fath dyrfa gref â hon? Ac at hynny, yr ydym yn diffygio, gan na chawsom fwyd heddiw.”

18. Atebodd Jwdas, “Y mae'n ddigon hawdd i lawer gael eu cau i mewn gan ychydig, ac nid oes gwahaniaeth yng ngolwg y nef p'run ai trwy lawer neu trwy ychydig y daw gwaredigaeth.

19. Nid yw buddugoliaeth mewn rhyfel yn dibynnu ar luosogrwydd byddin; o'r nef yn hytrach y daw nerth.

20. Y maent yn ymosod arnom, yn llawn traha ac anghyfraith, i'n dinistrio ni a'n gwragedd a'n plant, ac i'n hysbeilio,

21. ond yr ydym ninnau'n brwydro dros ein bywydau a'n cyfreithiau.

22. Bydd ef yn eu dryllio o flaen ein llygaid; felly peidiwch chwi â'u hofni.”

23. Wedi iddo orffen siarad, gwnaeth ymosodiad sydyn ar y gelyn, a drylliwyd Seron a'i fyddin o'i flaen.

24. Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid.

25. Yna dechreuwyd ofni Jwdas a'i frodyr, a syrthiodd braw ar y Cenhedloedd o'u hamgylch.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 3