Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 3:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Casglodd Apolonius rai o blith y Cenhedloedd, a byddin gref o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel. Pan glywodd Jwdas am hyn, aeth allan i'w gyfarfod.

11. Trawodd ef a'i ladd; archollwyd a lladdwyd llawer o filwyr y gelyn, a ffodd y gweddill.

12. Cymerwyd eu hysbail hwy, a Jwdas yn cymryd cleddyf Apolonius; â hwnnw yr ymladdodd wedyn holl ddyddiau ei fywyd.

13. Pan glywodd Seron, capten byddin Syria, fod Jwdas wedi casglu ato lu mawr, a chwmni o ffyddloniaid ac o rai a arferai fynd i ryfel,

14. dywedodd, “Gwnaf enw i mi fy hun, ac enillaf ogoniant yn y deyrnas trwy ryfela yn erbyn Jwdas a'i ganlynwyr, sy'n diystyru gorchymyn y brenin.”

15. Aeth i fyny â chwmni cryf o ddynion annuwiol gydag ef yn gymorth, i ddial ar blant Israel.

16. Nesaodd at fwlch Beth-horon, lle daeth Jwdas i'w gyfarfod gyda chwmni bychan.

17. Pan welodd ei ganlynwyr y fyddin yn dod i'w cyfarfod, dywedasant wrth Jwdas, “Sut y gallwn ni, a ninnau'n gwmni bychan, frwydro yn erbyn y fath dyrfa gref â hon? Ac at hynny, yr ydym yn diffygio, gan na chawsom fwyd heddiw.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 3