Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. A rhwygodd Matathias a'i feibion eu dillad; gwisgasant sachliain a galaru'n chwerw.

15. Yna daeth swyddogion y brenin, a oedd yn gorfodi'r bobl i gefnu ar eu crefydd, i dref Modin i beri iddynt aberthu.

16. Aeth llawer o bobl Israel atynt; a daeth Matathias a'i feibion ynghyd hefyd.

17. Dywedodd swyddogion y brenin wrth Matathias: “Yr wyt ti'n arweinydd ac yn ddyn o fri a dylanwad yn y dref hon, a'th feibion a'th frodyr yn gefn iti.

18. Yn awr, tyrd dithau yn gyntaf, ac ufuddha i orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl Genhedloedd, a thrigolion Jwda, a'r rhai a adawyd ar ôl yn Jerwsalem. Yna cei di a'th feibion eich cyfrif yn Gyfeillion y Brenin; cei di a'th feibion eich anrhydeddu ag arian ac aur a llawer o anrhegion.”

19. Ond atebodd Matathias â llais uchel: “Er bod yr holl genhedloedd sydd dan lywodraeth y brenin yn gwrando arno, ac yn cefnu bob un ar grefydd eu hynafiaid, ac yn cytuno â'i orchmynion,

20. eto yr wyf fi a'm brodyr am ddilyn llwybr cyfamod ein hynafiaid.

21. Na ato Duw i ni gefnu ar y gyfraith a'i hordeiniadau.

22. Nid ydym ni am ufuddhau i orchmynion y brenin, trwy wyro oddi wrth ein crefydd i'r dde nac i'r chwith.”

23. Cyn gynted ag y peidiodd â llefaru'r geiriau hyn, daeth rhyw Iddew ymlaen yng ngolwg pawb, i aberthu ar yr allor yn Modin, yn ôl gorchymyn y brenin.

24. Pan welodd Matathias ef, fe'i llanwyd â sêl digllon a chynhyrfwyd ef drwyddo. Wedi ei danio gan ddicter cyfiawn fe redodd at y dyn a'i ladd ar yr allor,

25. a'r un pryd lladdodd swyddog y brenin a oedd yn gorfodi'r aberthu, a dymchwelodd yr allor.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 2