Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 16:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ffodd y gelyn i'r tyrau sydd ym meysydd Asotus, a llosgodd yntau'r dref â thân. Syrthiodd tua dwy fil o wŷr y gelyn; yna dychwelodd Ioan i Jwdea mewn heddwch.

11. Yr oedd Ptolemeus fab Abwbus wedi ei benodi'n llywodraethwr ar wastatir Jericho. Yr oedd ganddo lawer o arian ac aur,

12. oherwydd ef oedd mab-yng-nghyfraith yr archoffeiriad.

13. Ond aeth yn rhy uchelgeisiol, a chwennych meddiannu'r wlad. Cynllwyniodd yn ddichellgar yn erbyn Simon a'i feibion, i'w lladd.

14. Tra oedd Simon yn ymweld â threfi'r wlad i ofalu am eu buddiannau, daeth ef a'i feibion Matathias a Jwdas i lawr i Jericho yn y flwyddyn 177, yn yr unfed mis ar ddeg, sef mis Sabat.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 16