Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 16:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Aeth Ioan i fyny o Gasara ac adrodd i'w dad Simon beth a gyflawnodd Cendebeus.

2. Galwodd Simon ei ddau fab hynaf, Jwdas ac Ioan, a dweud wrthynt, “Yr wyf fi a'm brodyr a thŷ fy nhad wedi ymladd brwydrau Israel o'n hieuenctid hyd y dydd hwn, a ffynnodd yr achos dan ein dwylo fel y gwaredwyd Israel lawer gwaith.

3. Bellach yr wyf fi wedi heneiddio, ond trwy drugaredd yr ydych chwi ym mlodau eich dyddiau. Cymerwch chwi fy lle i a'm brawd; ewch allan ac ymladd dros ein cenedl; a boed cymorth y nef gyda chwi.”

4. Detholodd o'r wlad ugain mil o ryfelwyr a gwŷr meirch, ac aethant yn erbyn Cendebeus, a bwrw'r nos yn Modin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 16