Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 15:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Bydd Jerwsalem a'r deml yn rhydd. Caiff yr holl arfau a ddarperaist, a'r amddiffynfeydd a adeiledaist, sydd yn dy feddiant, barhau yn eiddo i ti.

8. Hefyd caiff pob dyled sydd, neu a fydd, yn ddyledus i'r drysorfa frenhinol ei dileu, yn awr a hyd byth.

9. Pan fyddwn wedi meddiannu ein teyrnas fe osodwn arnat ti a'th genedl a'r deml anrhydedd mawr iawn, fel yr amlygir eich bri dros yr holl ddaear.”

10. Yn y flwyddyn 174 aeth Antiochus i mewn i wlad ei hynafiaid, a daeth yr holl luoedd ynghyd ato ef, fel mai ychydig oedd gyda Tryffo.

11. Ymlidiodd Antiochus ef, a daeth yntau yn ffoadur i Dor, tref ar lan y môr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 15