Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 15:6-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yr wyf yn rhoi caniatâd i ti fathu dy arian priod dy hun, i fod yn arian cyfredol yn dy wlad.

7. Bydd Jerwsalem a'r deml yn rhydd. Caiff yr holl arfau a ddarperaist, a'r amddiffynfeydd a adeiledaist, sydd yn dy feddiant, barhau yn eiddo i ti.

8. Hefyd caiff pob dyled sydd, neu a fydd, yn ddyledus i'r drysorfa frenhinol ei dileu, yn awr a hyd byth.

9. Pan fyddwn wedi meddiannu ein teyrnas fe osodwn arnat ti a'th genedl a'r deml anrhydedd mawr iawn, fel yr amlygir eich bri dros yr holl ddaear.”

10. Yn y flwyddyn 174 aeth Antiochus i mewn i wlad ei hynafiaid, a daeth yr holl luoedd ynghyd ato ef, fel mai ychydig oedd gyda Tryffo.

11. Ymlidiodd Antiochus ef, a daeth yntau yn ffoadur i Dor, tref ar lan y môr.

12. Oherwydd gwyddai fod drygau wedi disgyn arno, a bod y lluoedd wedi cefnu arno.

13. Gwersyllodd Antiochus yn erbyn Dor, a chydag ef gant ac ugain o filoedd o ryfelwyr ac wyth mil o wŷr meirch.

14. Amgylchynodd y dref, ac ymunodd y llongau yn y gwarchae o'r môr. Felly gorthrymodd y dref o'r tir a'r môr, heb ganiatáu i neb fynd i mewn nac allan.

15. Daeth Nwmenius a'r gwŷr oedd gydag ef o Rufain, gan ddwyn llythyr at y brenhinoedd a'r gwledydd; a'r neges ganlynol wedi ei hysgrifennu ynddo:

16. “Lwcius, Conswl y Rhufeiniaid, at y Brenin Ptolemeus, cyfarchion.

17. Daeth cenhadau yr Iddewon atom, ein cyfeillion a'n cynghreiriaid, wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad ac oddi wrth bobl yr Iddewon, i adnewyddu'r cyfeillgarwch a'r cynghrair a fu rhyngom gynt.

18. Daethant â tharian o aur, gwerth mil o ddarnau arian.

19. Gwelsom yn dda felly ysgrifennu at y brenhinoedd a'r gwledydd ar iddynt beidio â cheisio niwed i'r Iddewon, na mynd i ryfel yn eu herbyn hwy na'u trefi na'u gwlad, na mynd i gynghrair â'r rhai fydd yn rhyfela yn eu herbyn.

20. Penderfynasom dderbyn y darian ganddynt.

21. Gan hynny, os bydd rhyw ddihirod wedi ffoi o'u gwlad atoch chwi, traddodwch hwy i Simon yr archoffeiriad, iddo ef ddial arnynt yn ôl cyfraith yr Iddewon.”

22. Ysgrifennwyd yr un neges at y Brenin Demetrius, ac at Attalus, Ariarathes, Arsaces,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 15