Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 15:32-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Pan ddaeth Athenobius, Cyfaill y Brenin, i Jerwsalem, a gweld rhwysg Simon, a chwpwrdd yn llawn o lestri aur ac arian, ac arlwy luosog, rhyfeddodd. Cyflwynodd iddo neges y brenin,

33. ac atebodd Simon ef: “Nid tir pobl eraill yr ydym wedi ei gipio, ac nid eiddo pobl eraill yr ydym wedi ei feddiannu, ond treftadaeth ein hynafiaid, a drawsfeddiannwyd yn anghyfiawn dros dro gan ein gelynion.

34. Manteisio ar ein cyfle yr ydym ni i gael gafael eto ar dreftadaeth ein hynafiaid.

35. Ynglŷn â Jopa a Gasara, y lleoedd yr wyt ti yn eu hawlio, yr oedd y rhain yn peri difrod mawr ymhlith ein pobl ac yn ein gwlad; eto fe rown gan talent amdanynt.”

36. Nid atebodd Athenobius un gair iddo. Dychwelodd at y brenin mewn dicter, ac adrodd iddo eiriau Simon, a disgrifio'i rwysg a'r cwbl a welodd. Digiodd y brenin yn gynddeiriog.

37. Ffoes Tryffo mewn llong i Orthosia.

38. Penododd y brenin Cendebeus yn gadlywydd yr arfordir, a rhoi iddo lu o wŷr traed ac o wŷr meirch.

39. Gorchmynnodd iddo wersyllu yn erbyn Jwdea, ac adeiladu Cedron a chadarnhau ei phyrth, er mwyn ymladd yn erbyn y bobl. Ond parhau i ymlid Tryffo a wnaeth y brenin.

40. Cyrhaeddodd Cendebeus Jamnia a dechrau cythruddo'r bobl; goresgynnodd Jwdea, caethiwo'r bobl, a'u lladd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 15