19. Gwelsom yn dda felly ysgrifennu at y brenhinoedd a'r gwledydd ar iddynt beidio â cheisio niwed i'r Iddewon, na mynd i ryfel yn eu herbyn hwy na'u trefi na'u gwlad, na mynd i gynghrair â'r rhai fydd yn rhyfela yn eu herbyn.
20. Penderfynasom dderbyn y darian ganddynt.
21. Gan hynny, os bydd rhyw ddihirod wedi ffoi o'u gwlad atoch chwi, traddodwch hwy i Simon yr archoffeiriad, iddo ef ddial arnynt yn ôl cyfraith yr Iddewon.”
22. Ysgrifennwyd yr un neges at y Brenin Demetrius, ac at Attalus, Ariarathes, Arsaces,
23. at Sampsames ac at y Spartiaid, yn ogystal ag i'r holl leoedd canlynol: Delos, Myndos, Sicyon, Caria, Samos, Pamffylia, Lycia, Halicarnassus, Rhodos, Phaselis, Cos, Side, Aradus, Gortuna, Cnidus, Cyprus a Cyrene.
24. Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.
25. Gwersyllodd y Brenin Antiochus yn erbyn Dor yr ail waith, a dwyn cyrchoedd arni yn barhaus. A chan godi peiriannau rhyfel gwarchaeodd ar Tryffo, fel na ellid mynd i mewn nac allan.
26. Anfonodd Simon ddwy fil o wŷr dethol ato i'w gynorthwyo, gydag arian ac aur ac arfau lawer.
27. Ond ni fynnai eu derbyn. Diddymodd yr holl gytundebau blaenorol a wnaethai â Simon, ac ymddieithriodd oddi wrtho.
28. Anfonodd ato Athenobius, un o'i Gyfeillion, i ddadlau ag ef a dweud, “Yr ydych chwi'n meddiannu Jopa a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, dinasoedd sy'n perthyn i'm teyrnas i.
29. Gwnaethoch eu cyffiniau yn ddiffaith; gwnaethoch ddifrod mawr yn y tir, ac aethoch yn arglwyddi ar lawer lle yn fy nheyrnas.
30. Yn awr, felly, rhowch yn ôl y dinasoedd a gymerasoch, ynghyd â'ch hawl ar drethi'r lleoedd hynny y tu allan i derfynau Jwdea yr aethoch yn arglwyddi arnynt.
31. Onid e, rhowch bum can talent o arian yn eu lle; a phum can talent arall am y dinistr a wnaethoch, ac am drethi'r dinasoedd. Neu fe awn i ryfel yn eich erbyn.”
32. Pan ddaeth Athenobius, Cyfaill y Brenin, i Jerwsalem, a gweld rhwysg Simon, a chwpwrdd yn llawn o lestri aur ac arian, ac arlwy luosog, rhyfeddodd. Cyflwynodd iddo neges y brenin,
33. ac atebodd Simon ef: “Nid tir pobl eraill yr ydym wedi ei gipio, ac nid eiddo pobl eraill yr ydym wedi ei feddiannu, ond treftadaeth ein hynafiaid, a drawsfeddiannwyd yn anghyfiawn dros dro gan ein gelynion.
34. Manteisio ar ein cyfle yr ydym ni i gael gafael eto ar dreftadaeth ein hynafiaid.