Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 15:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yn y flwyddyn 174 aeth Antiochus i mewn i wlad ei hynafiaid, a daeth yr holl luoedd ynghyd ato ef, fel mai ychydig oedd gyda Tryffo.

11. Ymlidiodd Antiochus ef, a daeth yntau yn ffoadur i Dor, tref ar lan y môr.

12. Oherwydd gwyddai fod drygau wedi disgyn arno, a bod y lluoedd wedi cefnu arno.

13. Gwersyllodd Antiochus yn erbyn Dor, a chydag ef gant ac ugain o filoedd o ryfelwyr ac wyth mil o wŷr meirch.

14. Amgylchynodd y dref, ac ymunodd y llongau yn y gwarchae o'r môr. Felly gorthrymodd y dref o'r tir a'r môr, heb ganiatáu i neb fynd i mewn nac allan.

15. Daeth Nwmenius a'r gwŷr oedd gydag ef o Rufain, gan ddwyn llythyr at y brenhinoedd a'r gwledydd; a'r neges ganlynol wedi ei hysgrifennu ynddo:

16. “Lwcius, Conswl y Rhufeiniaid, at y Brenin Ptolemeus, cyfarchion.

17. Daeth cenhadau yr Iddewon atom, ein cyfeillion a'n cynghreiriaid, wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad ac oddi wrth bobl yr Iddewon, i adnewyddu'r cyfeillgarwch a'r cynghrair a fu rhyngom gynt.

18. Daethant â tharian o aur, gwerth mil o ddarnau arian.

19. Gwelsom yn dda felly ysgrifennu at y brenhinoedd a'r gwledydd ar iddynt beidio â cheisio niwed i'r Iddewon, na mynd i ryfel yn eu herbyn hwy na'u trefi na'u gwlad, na mynd i gynghrair â'r rhai fydd yn rhyfela yn eu herbyn.

20. Penderfynasom dderbyn y darian ganddynt.

21. Gan hynny, os bydd rhyw ddihirod wedi ffoi o'u gwlad atoch chwi, traddodwch hwy i Simon yr archoffeiriad, iddo ef ddial arnynt yn ôl cyfraith yr Iddewon.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 15