Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 14:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yr oedd y bobl yn trin eu tir mewn heddwch, a'r ddaear yn dwyn ei chnydau a choed y gwastadeddau eu ffrwyth.

9. Byddai'r hynafgwyr yn eistedd yn yr heolydd, yn ymgomio â'i gilydd am eu bendithion, a'r gwŷr ifainc yn ymwisgo'n ysblennydd yn eu lifrai milwrol.

10. Darparodd Simon gyflenwad bwyd i'r trefi, a gosod ynddynt arfau amddiffyn; ac ymledodd y sôn am ei enw anrhydeddus hyd eithaf y ddaear.

11. Sefydlodd heddwch yn y tir, a bu llawenydd Israel yn fawr dros ben.

12. Eisteddodd pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, heb neb i'w ddychrynu.

13. Yn y dyddiau hynny nid oedd neb ar ôl yn y wlad i ryfela yn erbyn yr Iddewon, gan fod y brenhinoedd wedi cael eu dinistrio.

14. Rhoddodd Simon nawdd i'r holl rai iselradd ymhlith ei bobl; rhoes sylw manwl i'r gyfraith, a bwriodd ymaith bob un digyfraith a drygionus.

15. Rhoes fri mawr ar y cysegr, ac amlhau ei lestri cysegredig.

16. Daeth y newydd am farw Jonathan i Rufain, ac i Sparta hefyd, a buont yn galaru'n fawr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 14