Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 14:45-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Bydd pwy bynnag a wna'n groes i hyn, neu a ddiddyma un o'r gorchmynion hyn, yn agored i gosb.

46. Gwelodd yr holl bobl yn dda benodi Simon i weithredu yn unol â'r cyfarwyddiadau hyn.

47. Derbyniodd yntau, a gweld yn dda bod yn archoffeiriad, yn gadlywydd ac yn llywodraethwr ar yr Iddewon a'r offeiriaid, a bod yn amddiffynnwr pawb.”

48. Gorchmynnwyd cerfio'r arysgrif hon ar lechau pres, a gosod y rheini o fewn cylch y cysegr mewn lle amlwg,

49. a rhoi copi ohonynt yn y trysordy, at wasanaeth Simon a'i feibion.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 14