Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 14:30-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Cynullodd Jonathan eu cenedl at ei gilydd, a bu'n archoffeiriad iddynt nes ei gasglu at ei bobl.

31. Cynllwyniodd eu gelynion i oresgyn eu gwlad ac i ymosod ar eu cysegr.

32. Yna cododd Simon ac ymladd dros ei genedl. Gwariodd lawer o'i arian ei hun ar arfogi rhyfelwyr ei genedl a rhoi cyflog iddynt.

33. Cadarnhaodd drefi Jwdea, a Bethswra yng nghyffiniau Jwdea, lle gynt yr oedd arfau'r gelynion, a gosododd warchodlu o Iddewon yno.

34. Cadarnhaodd hefyd Jopa ar lan y môr, a Gasara yng nghyffiniau Asotus, lle gynt y trigai'r gelynion. Rhoes Iddewon i drigo yno, a gosod yn y trefi bopeth angenrheidiol er eu hadfer.

35. Pan welodd y bobl deyrngarwch Simon, a'i fwriad i ennill bri i'w genedl, penodasant ef yn arweinydd ac yn archoffeiriad iddynt, i'w gydnabod am iddo wneud yr holl bethau hyn, am iddo ymddwyn yn gyfiawn, a pharhau'n deyrngar i'w genedl, ac am iddo ym mhob modd geisio dyrchafu ei bobl.

36. Yn ei ddyddiau ef bu cymaint o lwyddiant dan ei law fel y gyrrwyd y Cenhedloedd allan o'u gwlad, ynghyd â'r rhai yn ninas Dafydd yn Jerwsalem a oedd wedi codi caer iddynt eu hunain. Oddi yno byddent yn mynd allan ac yn halogi popeth o amgylch y cysegr, a gwneud niwed mawr i'w burdeb.

37. Rhoes Simon Iddewon i drigo yn y gaer, a'i chadarnhau er diogelwch y wlad a'r ddinas, a chodi muriau Jerwsalem yn uwch.

38. O ganlyniad cadarnhaodd y Brenin Demetrius ef yn swydd yr archoffeiriad,

39. a'i wneud yn un o'i Gyfeillion, gan roi anrhydedd mawr iddo.

40. Oherwydd yr oedd wedi clywed bod y Rhufeiniaid yn cydnabod yr Iddewon fel cyfeillion a chynghreiriaid a brodyr, a'u bod wedi mynd allan i dderbyn mewn rhwysg genhadau Simon.

41. “Gwelodd yr Iddewon a'r offeiriaid yn dda benodi Simon yn arweinydd ac archoffeiriad iddynt am byth, nes y byddai proffwyd ffyddlon yn codi.

42. Ef oedd i fod yn gadlywydd arnynt, ac yn gyfrifol am y cysegr, yn oruchwyliwr ar eu llafur, ar y wlad, ar yr arfau ac ar yr amddiffynfeydd.

43. Yr oedd i fod yn gyfrifol am y cysegr, ac yr oedd pawb i ufuddhau iddo, a phob cytundeb yn y wlad i gael ei ysgrifennu yn ei enw ef. Yr oedd i ymddilladu mewn porffor ac i wisgo aur.

44. “Ni fydd gan neb o'r bobl nac o'r offeiriaid hawl i ddiddymu un o'r gorchmynion hyn, na gwrthddweud ordeiniadau Simon, na chynnull cynulliad yn y wlad heb ei gydsyniad, nac ymddilladu mewn porffor na gwisgo clespyn aur.

45. Bydd pwy bynnag a wna'n groes i hyn, neu a ddiddyma un o'r gorchmynion hyn, yn agored i gosb.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 14