Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 14:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Ysgrifenasom eu hadroddiad yn y cofnodion cyhoeddus fel a ganlyn: ‘Daeth Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, cenhadau yr Iddewon, atom i adnewyddu cytundeb eu cyfeillgarwch â ni.

23. Bu'n dda gan y bobl groesawu'r gwŷr yn anrhydeddus, a gosod copi o'u hymadroddion yn yr archifau cyhoeddus, iddynt fod ar gof a chadw gan y Spartiaid. Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.’ ”

24. Wedi hyn anfonodd Simon Nwmenius i Rufain gyda tharian fawr o aur, gwerth mil o ddarnau arian, er mwyn cadarnhau'r cynghrair â hwy.

25. Pan glywodd y bobl y geiriau hyn dywedasant, “Pa ddiolch a rown i Simon ac i'w feibion?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 14