1. Yn y flwyddyn 172 casglodd y Brenin Demetrius ei luoedd ynghyd a theithiodd i Media i geisio cymorth iddo'i hun, fel y gallai ryfela yn erbyn Tryffo.
2. Pan glywodd Arsaces, brenin Persia a Media, fod Demetrius wedi dod i'w gyffiniau, anfonodd un o'i gapteiniaid i'w ddal yn fyw.
3. Aeth hwnnw a tharo gwersyll Demetrius, a'i ddal a'i ddwyn at Arsaces; rhoddodd yntau ef yng ngharchar.
4. Cafodd gwlad Jwda heddwch holl ddyddiau Simon. Ceisiodd ef ddaioni i'w genedl, a bodlonwyd hwythau gan ei awdurdod a'i fri dros ei holl ddyddiau.
5. At yr holl fri oedd ganddo, cipiodd Jopa i fod yn borthladd, a'i wneud yn fynedfa i ynysoedd y môr.
6. Helaethodd derfynau ei genedl, a daeth y wlad dan ei awdurdod.
7. Casglodd ynghyd lawer o garcharorion rhyfel, a gwnaeth ei hun yn arglwydd dros Gasara a Bethswra, a'r gaer, a charthu allan ohoni ei holl aflendid. Nid oedd neb a'i gwrthwynebai.
8. Yr oedd y bobl yn trin eu tir mewn heddwch, a'r ddaear yn dwyn ei chnydau a choed y gwastadeddau eu ffrwyth.
9. Byddai'r hynafgwyr yn eistedd yn yr heolydd, yn ymgomio â'i gilydd am eu bendithion, a'r gwŷr ifainc yn ymwisgo'n ysblennydd yn eu lifrai milwrol.