Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 13:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywodd Simon fod Tryffo wedi casglu llu mawr gyda'r bwriad o fynd i wlad Jwda i'w difrodi hi.

2. Pan welodd fod y bobl yn llawn ofn a dychryn, aeth i fyny i Jerwsalem a chynnull y bobl,

3. a'u calonogi â'r geiriau hyn: “Fe wyddoch chwi gynifer o bethau a wneuthum i, a'm brodyr, a thŷ fy nhad, dros y cyfreithiau a'r cysegr; a'r rhyfeloedd a'r cyfyngderau a welsom.

4. A dyma'r achos, achos Israel, y lladdwyd fy mrodyr oll er ei fwyn, a myfi yn unig a adawyd.

5. Yn awr, felly, na ato Duw imi arbed fy einioes mewn unrhyw adeg o orthrymder; oherwydd nid wyf fi'n well na'm brodyr.

6. Yn hytrach yr wyf am ddial cam fy nghenedl a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant; oherwydd y mae'r holl Genhedloedd yn eu gelyniaeth wedi ymgasglu ynghyd i'n difrodi ni.”

7. Adfywiodd ysbryd y bobl y foment y clywsant y geiriau hyn,

8. ac atebasant â llais uchel: “Ti yw ein harweinydd ni yn lle Jwdas a Jonathan dy frawd.

9. Ymladda di ein rhyfel, a pha beth bynnag a ddywedi wrthym, fe'i gwnawn.”

10. Casglodd yntau yr holl wŷr cymwys i ryfela, a brysiodd i orffen muriau Jerwsalem, a'i chadarnhau o bob tu.

11. Anfonodd Jonathan fab Absalom, a llu mawr gydag ef, i Jopa; taflodd hwnnw y trigolion allan ac ymsefydlu yno yn y dref.

12. Symudodd Tryffo o Ptolemais gyda llu mawr i oresgyn gwlad Jwda, gan ddwyn Jonathan gydag ef yn garcharor.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 13