Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 11:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Anfonodd genhadau at y Brenin Demetrius a dweud: “Tyrd, gad inni wneud cyfamod â'n gilydd, a rhof i ti fy merch, gwraig Alexander, a chei deyrnasu ar deyrnas dy dad.

10. Oherwydd y mae'n edifar gennyf imi roi fy merch iddo ef, ac yntau wedi ceisio fy lladd.”

11. Cafodd fai ar Alexander fel hyn am ei fod yn chwenychu ei deyrnas.

12. Cymerodd ei ferch oddi arno a'i rhoi i Demetrius. Ymddieithriodd oddi wrth Alexander, a daeth yr elyniaeth rhyngddynt yn amlwg.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 11