Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 11:49-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. Pan welodd y dinasyddion fod yr Iddewon wedi dod yn feistri llwyr ar y ddinas, collasant eu hyder, ac ymbil ar y brenin, gan lefain fel hyn:

50. “Estyn inni dy ddeheulaw mewn heddwch, a gad i'r Iddewon roi heibio eu cyrch yn ein herbyn ni a'n dinas.”

51. Taflasant ymaith eu harfau, a gwneud heddwch. Anrhydeddwyd yr Iddewon yng ngŵydd y brenin ac yng ngŵydd pawb yn ei deyrnas. Dychwelsant i Jerwsalem a chanddynt lawer o ysbail.

52. Felly eisteddodd y Brenin Demetrius ar orsedd ei deyrnas, a bu'r wlad yn dawel dano.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 11