Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 11:48-67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

48. Llosgodd yr Iddewon y ddinas a chymryd llawer o ysbail y dydd hwnnw, ac achub y brenin hefyd.

49. Pan welodd y dinasyddion fod yr Iddewon wedi dod yn feistri llwyr ar y ddinas, collasant eu hyder, ac ymbil ar y brenin, gan lefain fel hyn:

50. “Estyn inni dy ddeheulaw mewn heddwch, a gad i'r Iddewon roi heibio eu cyrch yn ein herbyn ni a'n dinas.”

51. Taflasant ymaith eu harfau, a gwneud heddwch. Anrhydeddwyd yr Iddewon yng ngŵydd y brenin ac yng ngŵydd pawb yn ei deyrnas. Dychwelsant i Jerwsalem a chanddynt lawer o ysbail.

52. Felly eisteddodd y Brenin Demetrius ar orsedd ei deyrnas, a bu'r wlad yn dawel dano.

53. Ond twyll fu ei holl addewidion; ymddieithriodd oddi wrth Jonathan, ac yn hytrach na thalu'n ôl y cymwynasau a wnaeth Jonathan ag ef, aeth rhagddo i aflonyddu'n fawr arno.

54. Ar ôl hyn dychwelodd Tryffo, a'r bachgen ifanc Antiochus gydag ef, a choronwyd ef yn frenin.

55. Ymgasglodd ato yr holl luoedd yr oedd Demetrius wedi eu troi heibio, ac ymladdasant yn erbyn Demetrius. Enciliodd yntau, a gyrrwyd ef ar ffo.

56. Daeth yr eliffantod i feddiant Tryffo, a choncrodd Antiochia.

57. Ysgrifennodd Antiochus ifanc at Jonathan fel hyn: “Yr wyf yn dy gadarnhau yn dy swydd fel archoffeiriad, ac yn dy osod dros y pedair rhandir, ac yn dy wneud yn un o Gyfeillion y Brenin.”

58. Anfonodd iddo lestri aur at ei wasanaeth, a rhoes iddo'r hawl i yfed allan o lestri aur, i ymddilladu mewn porffor a gwisgo clespyn aur.

59. Gosododd ei frawd Simon yn llywodraethwr ar y parthau o Risiau Tyrus hyd at gyffiniau'r Aifft.

60. Aeth Jonathan allan a theithio trwy'r wlad yr ochr arall i'r afon, a'r trefi yno. Ymgasglodd ato holl luoedd Syria, i fod yn gynghreiriaid iddo. Cyrhaeddodd Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w dderbyn yn anrhydeddus.

61. Oddi yno aeth i Gasa, ond caeodd pobl Gasa y pyrth yn ei erbyn. Gwarchaeodd yntau arni a llosgi ei maestrefi â thân, a'u hysbeilio.

62. Ymbiliodd pobl Gasa am heddwch, a gwnaeth Jonathan delerau â hwy. Cymerodd feibion eu harweinwyr yn wystlon, a'u hanfon i ffwrdd i Jerwsalem. Yna tramwyodd trwy'r wlad hyd at Ddamascus.

63. Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi cyrraedd Cedes yng Ngalilea gyda llu mawr, gan fwriadu ei atal rhag cyflawni ei amcan.

64. Aeth i'w cyfarfod, ond gadawodd ei frawd Simon yn Jwdea.

65. Gwersyllodd Simon o flaen Bethswra, ac wedi ymladd yn ei herbyn dros ddyddiau lawer, gosododd hi dan warchae.

66. Ymbiliodd y trigolion am delerau heddwch, a chydsyniodd yntau. Taflodd hwy allan oddi yno, ac wedi meddiannu'r dref gosododd warchodlu o'i mewn.

67. Gwersyllodd Jonathan a'i fyddin wrth Lyn Genesaret, a chodasant yn y bore bach i deithio hyd wastatir Asor.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 11