Yn lle'r trethi y byddai'r brenin yn eu derbyn ganddynt o'r blaen bob blwyddyn, o gynnyrch y ddaear ac o'r coed ffrwythau, yr ydym wedi sicrhau iddynt gyffiniau Jwdea, ynghyd â'r tair rhandir Afferema, Lyda, a Ramathaim; y mae'r rhain, a phopeth sy'n perthyn iddynt, yn awr wedi eu trosglwyddo oddi ar Samaria i Jwdea. Bydd hyn er lles pawb sydd yn aberthu yn Jerwsalem.