Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Casglodd brenin yr Aifft luoedd mor niferus â'r tywod sydd ar lan y môr, a llongau lawer; a cheisiodd gipio teyrnas Alexander trwy ddichell, a'i hychwanegu at ei deyrnas ei hun.

2. Aeth i Syria â'i eiriau'n llawn heddwch, a dyma drigolion y trefi yn agor iddo a mynd allan i'w gyfarfod, oherwydd i'r Brenin Alexander orchymyn mynd i'w gyfarfod am mai ei dad-yng-nghyfraith oedd.

3. Fel yr oedd Ptolemeus yn mynd i mewn i'r trefi, gosododd warchodlu ym mhob tref.

4. Pan gyrhaeddwyd Asotus dangoswyd iddo deml Dagon wedi ei llosgi, Asotus a'i maestrefi yn adfeilion, y cyrff wedi eu gwasgaru ar hyd y lle, a'r rhai yr oedd Jonathan wedi eu llosgi yn y rhyfel wedi eu gadael yn bentyrrau ar hyd ei ffordd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 11