Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 8:38-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. O deulu Asgath, Joanes fab Hacatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.

39. O deulu Adonicam, y rhai olaf, a'u henwau yw: Eliffalatus, Jewel a Samaias, a saith deg o ddynion gyda hwy.

40. O deulu Bago, Wthi fab Istalcwrus, a saith deg o ddynion gydag ef.

41. “Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon a elwir Theras, a buom yn gwersyllu yno dridiau, ac archwiliais hwy.

42. Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid,

43. anfonais at Eleasar, Idwelus, Maasmas,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 8