Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 6:3-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr un adeg daeth Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr atynt a gofyn iddynt,

4. “Pwy a roes ganiatâd i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a rhoi to arno a'i gwblhau ym mhob dim arall? A phwy yw'r adeiladwyr sy'n cyflawni'r gwaith hwn?”

5. Ond cafodd henuriaid yr Iddewon ffafr gan yr Arglwydd, a fu'n gofalu amdanynt yn y gaethglud,

6. ac ni rwystrwyd hwy rhag adeiladu yn y cyfnod rhwng anfon adroddiad amdanynt at Dareius a chael ei ddyfarniad arno.

7. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd ac a anfonodd Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr, y swyddogion yn Syria a Phenice, at Dareius: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!

8. Bydded hyn oll yn hysbys i'n harglwydd y brenin: inni ymweld â thalaith Jwda a mynd i mewn i ddinas Jerwsalem; yno cawsom henuriaid yr Iddewon, a ddychwelodd o'r gaethglud,

9. yn adeiladu yn ninas Jerwsalem dŷ mawr newydd i'r Arglwydd o gerrig nadd drud, gyda choed wedi eu gosod yn y muriau;

10. y mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym a'r adeiladu'n llwyddo dan eu llaw, ac fe'i cwblheir â phob ysblander a gofal.

11. Yna gofynasom i'r henuriaid hyn, ‘Pwy a roes gennad i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a gosod y sylfeini hyn?’

12. Ein hamcan wrth eu holi oedd gallu cyflwyno i ti restr o'u gwŷr blaenllaw, ond pan ofynasom iddynt am restr o enwau eu harweinwyr,

13. eu hateb i ni oedd: ‘Gweision yr Arglwydd, creawdwr nef a daear, ydym ni.

14. Adeiladwyd y tŷ lawer o flynyddoedd yn ôl gan frenin mawr a nerthol yn Israel, a'i orffen ganddo.

15. Ond am i'n hynafiaid wrthryfela a phechu yn erbyn Arglwydd nefol Israel, rhoddodd ef hwy yn nwylo Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y Caldeaid.

16. Dymchwelwyd y tŷ a'i losgi, a chaethgludwyd y bobl i Fabilon.

17. Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus dros wlad Babilonia, rhoes y Brenin Cyrus gennad i adeiladu'r tŷ hwn.

18. Y llestri aur ac arian a ddygodd Nebuchadnesar o'r tŷ yn Jerwsalem a'u rhoi yn ei deml ei hun, cymerodd y Brenin Cyrus hwy drachefn o'r deml ym Mabilon a'u trosglwyddo i Sorobabel a Sanabassar y llywodraethwr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 6