Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 6:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. “Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus, gorchmynnodd y Brenin Cyrus fod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem, lle'r aberthir â thân parhaus, i'w adeiladu:

25. ei uchder i fod yn drigain cufydd a'i led yn drigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig nadd ac un rhes o goed newydd lleol, a'r gost i'w dwyn gan drysorfa'r Brenin Cyrus;

26. hefyd fod llestri sanctaidd tŷ'r Arglwydd, yn aur ac yn arian, y rheini a ddygodd Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem a'u cludo i Fabilon, i'w dychwelyd i'r deml yn Jerwsalem a'u gosod yn y man lle'r oeddent o'r blaen.”

27. A gorchmynnodd Dareius i Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr, a'r swyddogion a benodwyd yn Syria a Phenice, ofalu cadw draw o'r lle gan adael i Sorobabel, gwas yr Arglwydd a llywodraethwr Jwda, a henuriaid yr Iddewon, adeiladu tŷ'r Arglwydd ar ei hen safle.

28. “Yr wyf fi hefyd wedi gorchymyn,” meddai, “iddo gael ei adeiladu'n gyfan gwbl, a bod cydweithredu ewyllysgar â'r rhai yn Jwda a ddychwelodd o'r gaethglud hyd nes y cwblheir tŷ'r Arglwydd.

29. O dreth Celo-Syria a Phenice taler yn ddi-feth i'r dynion hyn, trwy law Sorobabel y llywodraethwr, at aberthau i'r Arglwydd: teirw, hyrddod ac ŵyn,

30. ac yn yr un modd wenith, halen, gwin ac olew yn gyson bob blwyddyn ac yn ddirwgnach yn ôl amcangyfrifon yr offeiriaid yn Jerwsalem o'n gwariant beunyddiol,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 6