Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 6:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. y mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym a'r adeiladu'n llwyddo dan eu llaw, ac fe'i cwblheir â phob ysblander a gofal.

11. Yna gofynasom i'r henuriaid hyn, ‘Pwy a roes gennad i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a gosod y sylfeini hyn?’

12. Ein hamcan wrth eu holi oedd gallu cyflwyno i ti restr o'u gwŷr blaenllaw, ond pan ofynasom iddynt am restr o enwau eu harweinwyr,

13. eu hateb i ni oedd: ‘Gweision yr Arglwydd, creawdwr nef a daear, ydym ni.

14. Adeiladwyd y tŷ lawer o flynyddoedd yn ôl gan frenin mawr a nerthol yn Israel, a'i orffen ganddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 6