Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 5:70-73 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

70. Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a phennau-teuluoedd Israel wrthynt: “Nid oes a wneloch chwi ddim â ni i adeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw;

71. ni yn unig sydd i adeiladu i Arglwydd Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”

72. Yna aflonyddodd pobloedd y wlad yn drwm ar drigolion Jwda, gan osod gwarchae arnynt a'u rhwystro rhag adeiladu,

73. a thrwy gynllwynion a chreu terfysg a chyffro eu hatal rhag cwblhau'r adeilad holl ddyddiau'r Brenin Cyrus. Fe'u rhwystrwyd rhag adeiladu am ddwy flynedd hyd at deyrnasiad y Brenin Dareius.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 5