Penodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith yr Arglwydd, ac fel un gŵr cododd Jesua a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel ei frawd, meibion Jesua Emadabun a meibion Joda fab Iliadun ynghyd â'i feibion a'i frodyr, yr holl Lefiaid, a gyrru ymlaen â'r gwaith ar dŷ Dduw. Felly y cododd yr adeiladwyr deml yr Arglwydd.