Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 5:32-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Moeda, Cwtha, Charea, Barchus, Serar, Thomi, Nasi, ac Atiffa.

33. Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Asaffioth, Pharida, Jeeli, Loson, Isdael, Saffuthi,

34. Agia, Phacareth o Sabie, Sarothie, Masias, Gas, Adus, Swbas, Afferra, Barodis, Saffat, Amon.

35. Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant saith deg a dau.

36. Daeth y rhai canlynol i fyny o Thermeleth a Thelersa dan arweiniad Charaath, Adan ac Amar,

37. ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: teuluoedd Dalan fab Twba, a Necodan, chwe chant pum deg a dau.

38. Ac o blith yr offeiriaid honnodd y canlynol hawl i'r swydd, ond nid oedd cofnod o'u hachau: teuluoedd Obbia, Accos, Jodus, a briododd Augia, un o ferched Pharselaius,

39. a chymryd ei enw. Pan chwiliwyd yn aflwyddiannus am gofnod o'u hachau yn y rhestr, fe'u hataliwyd rhag gwasanaethu fel offeiriaid,

40. a gwaharddodd Nehemeia ac Attharias iddynt gyfranogi o'r pethau cysegredig nes y ceid archoffeiriaid yn gwisgo'r Wrim a'r Twmim

41. Y cyfanswm oedd: Israeliaid deuddeg oed a mwy, heblaw eu gweision a'u morynion, yn bedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg;

42. eu gweision a'u morynion yn saith mil tri chant tri deg a saith; a'r cantorion a'r cantoresau yn ddau gant pedwar deg a phump.

43. Yr oedd ganddynt bedwar cant tri deg a phump o gamelod, saith mil tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump a fulod, a phum mil pum cant dau ddeg a phump o asynnod.

44. Pan ddaethant i deml Duw yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd i godi'r tŷ ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu,

45. ac i roi i drysorfa'r deml ar gyfer y gwaith fil mina o aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.

46. Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem a'r cyffiniau, a'r cantorion, y porthorion a holl Israel yn eu trefi.

47. Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu cartrefi, ymgasglasant fel un gŵr i'r sgwâr o flaen y porth cyntaf yn wynebu'r dwyrain.

48. Yna cododd Jesua fab Josedec a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i deulu, a pharatoi allor Duw Israel

49. er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, gŵr Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 5