Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi'r pethau hyn dewiswyd y pennau-teuluoedd, bob yn llwyth, i fynd i fyny ynghyd â'u gwragedd, eu meibion a'u merched, eu caethweision yn wryw ac yn fenyw, a'u hanifeiliaid.

2. Anfonodd Dareius gyda hwy fil o farchogion i'w dwyn yn ôl i Jerwsalem yn ddiogel i gyfeiliant drymiau a phibau,

3. a'u holl gyd-Iddewon yn dawnsio. Felly y parodd iddynt fynd i fyny gyda'r osgordd hon.

4. Dyma enwau'r dynion a aeth i fyny yn ôl eu teuluoedd a'u llwythau yn eu trefn:

5. yr offeiriaid, meibion Phinees fab Aaron; Jesua fab Josedec, fab Saraias, a Joacim fab Sorobabel, fab Salathiel, o dŷ Dafydd o linach Phares o lwyth Jwda,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 5