Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 2:20-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Oherwydd bod y gwaith ar y deml yn mynd yn ei flaen, dyma ni'n meddwl y byddai'n well i ni beidio ag anwybyddu'r fath sefyllfa,

21. ond ei hysbysu i'n harglwydd y brenin, er mwyn i archwiliad gael ei wneud, os yw'n dda gennyt, yn llyfrau dy hynafiaid.

22. Byddi'n darganfod yn y cofnodion yr hyn a ysgrifennwyd amdanynt, a chei wybod i'r ddinas hon fod yn wrthryfelgar a blino brenhinoedd a dinasoedd,

23. ac i'r Iddewon hwythau fod yn wrthryfelgar a chodi terfysg ynddi ers amser maith. Yn wir, dyna pam y difrodwyd y ddinas hon.

24. Felly yr ydym yn awr yn dy hysbysu, arglwydd frenin, os adeiledir y ddinas hon ac os ailgodir ei muriau, na fydd modd i ti ddychwelyd i Celo-Syria nac i Phenice.”

25. Yna ysgrifennodd y brenin mewn ateb i Rawmus y cofnodydd, Beeltemus, Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria, Syria a Phenice, fel hyn:

26. “Darllenais y llythyr a anfonasoch ataf. Ac o ganlyniad gorchmynnais chwilio, a darganfuwyd bod y ddinas hon ers amser maith wedi bod yn ymladd yn erbyn brenhinoedd,

27. a bod ei thrigolion wedi achosi terfysgoedd a rhyfeloedd, a hefyd bod brenhinoedd cryf a chreulon yn Jerwsalem wedi arglwyddiaethu ar Celo-Syria a Phenice a chodi treth arnynt.

28. Felly gorchmynnais yn awr rwystro'r bobl hynny rhag adeiladu'r ddinas, a gofalu na wneir dim pellach,

29. na gyrru ymlaen â'r fath bethau drwg i flino brenhinoedd.”

30. Yna, wedi i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen, cychwynnodd Rawmus a Samsaius yr ysgrifennydd a'u cyd-swyddogion ar frys i Jerwsalem gyda gwŷr meirch a mintai yn barod i ryfel, a dechrau rhwystro'r adeiladwyr. Peidiodd y gwaith o adeiladu'r deml yn Jerwsalem hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 2