Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 1:38-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Carcharodd Joacim y pendefigion, a daliodd ei frawd Sarius a'i ddwyn yn ôl o'r Aifft.

39. Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

40. Daeth Nebuchadnesar brenin Babilon ar ymgyrch yn ei erbyn, ei rwymo mewn cadwyn bres, a'i ddwyn ymaith i Fabilon.

41. Cymerodd Nebuchadnesar hefyd rai o lestri sanctaidd yr Arglwydd, gan eu cludo i ffwrdd a'u gosod yn ei deml ym Mabilon.

42. Y mae hanes Joacim a'i ymarweddiad amhur ac annuwiol wedi ei ysgrifennu yn llyfr croniclau'r brenhinoedd.

43. Daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. Pan ddaeth i'r orsedd yr oedd yn ddeunaw oed.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 1