Hen Destament

Testament Newydd

1 Esdras 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cadwodd Joseia ŵyl y Pasg i'w Arglwydd yn Jerwsalem, ac offrymodd oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

2. Gosododd yr offeiriaid yn nheml yr Arglwydd, pob un yn ôl ei adran ac yn ei urddwisg.

3. Gorchmynnodd i'r Lefiaid, gwasanaethwyr teml Israel, eu sancteiddio'u hunain i'r Arglwydd er mwyn gosod arch sanctaidd yr Arglwydd yn y tŷ a adeiladodd y Brenin Solomon, mab Dafydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Esdras 1