Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 27:4-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Dodai yr Ahohiad oedd dros adran yr ail fis, ac yn ei adran ef a Micloth y pennaeth yr oedd pedair mil ar hugain.

5. Benaia fab Jehoiada yr archoffeiriad oedd trydydd swyddog y llu, am y trydydd mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

6. Y Benaia hwn oedd yr arwr ymhlith y Deg ar Hugain, ac ef oedd yn gofalu amdanynt. Amisabad ei fab oedd dros ei adran ef.

7. Asahel brawd Joab oedd y pedwerydd, am y pedwerydd mis, a Sebadeia ei fab ar ei ôl; yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

8. Samuth yr Israhiad oedd y pumed swyddog, am y pumed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

9. Ira fab Icces y Tecoiad oedd y chweched, am y chweched mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

10. Heles y Peloniad, o feibion Effraim, oedd y seithfed, am y seithfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

11. Sibbechai yr Husathiad, un o'r Sarhiaid, oedd yr wythfed am yr wythfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.

12. Abieser o Anathoth, un o'r Benjaminiaid, oedd y nawfed, am y nawfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

13. Maharai o Netoffa, un o'r Sarhiaid, oedd y degfed, am y degfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

14. Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim, oedd yr unfed ar ddeg, am yr unfed mis ar ddeg, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

15. Heldai y Netoffathiad o Othniel oedd y deuddegfed, am y deuddegfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.

16. Prif swyddogion llwythau Israel: Elieser fab Sichri dros y Reubeniaid; Seffatia fab Maacha dros y Simeoniaid;

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 27