Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 27:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma nifer meibion Israel, yn bennau-teuluoedd a chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd a'u swyddogion, oedd yn gwasanaethu'r brenin yn y gwahanol adrannau fis ar y tro trwy gydol y flwyddyn: pedair mil ar hugain ymhob adran.

2. Jasobeam fab Sabdiel oedd yn gofalu am yr adran gyntaf am y mis cyntaf, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.

3. Yr oedd ef o feibion Peres ac yn brif swyddog y llu am y mis cyntaf.

4. Dodai yr Ahohiad oedd dros adran yr ail fis, ac yn ei adran ef a Micloth y pennaeth yr oedd pedair mil ar hugain.

5. Benaia fab Jehoiada yr archoffeiriad oedd trydydd swyddog y llu, am y trydydd mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

6. Y Benaia hwn oedd yr arwr ymhlith y Deg ar Hugain, ac ef oedd yn gofalu amdanynt. Amisabad ei fab oedd dros ei adran ef.

7. Asahel brawd Joab oedd y pedwerydd, am y pedwerydd mis, a Sebadeia ei fab ar ei ôl; yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

8. Samuth yr Israhiad oedd y pumed swyddog, am y pumed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

9. Ira fab Icces y Tecoiad oedd y chweched, am y chweched mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

10. Heles y Peloniad, o feibion Effraim, oedd y seithfed, am y seithfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

11. Sibbechai yr Husathiad, un o'r Sarhiaid, oedd yr wythfed am yr wythfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 27