1. Dewisodd Dafydd a'r swyddogion feibion Asaff, Heman a Jeduthun ar gyfer y gwaith o broffwydo â thelynau, nablau a symbalau. Dyma restr o'r dynion a etholwyd ar gyfer y gwaith.
2. O feibion Asaff: Saccur, Joseff, Nethaneia ac Asarela. Yr oedd meibion Asaff o dan gyfarwyddyd Asaff, a oedd yn proffwydo mewn ufudd-dod i'r brenin.
3. O Jeduthun, meibion Jeduthun: Gedaleia, Seri, Jesaia, Simei, Hasabeia a Matitheia, chwech, o dan gyfarwyddyd eu tad Jeduthun, a oedd yn proffwydo ar y delyn er mawl a chlod i'r ARGLWYDD.
4. O Heman, meibion Heman: Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-eser, Josbecasa, Malothi, Hothir a Mahasioth.
5. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Heman, gweledydd y brenin, gan fod Duw wedi addo ei ddyrchafu, ac wedi rhoi iddo bedwar ar ddeg o feibion a thair merch.
6. Yr oedd y rhain i gyd o dan gyfarwyddyd eu tad yn canu yn nhŷ'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, tra oedd Asaff, Jeduthun a Heman o dan gyfarwyddyd y brenin.
7. Y cyfanrif, gan gynnwys eu brodyr a oedd wedi eu hyfforddi sut i ganu i'r ARGLWYDD ac wedi meistroli'r grefft, oedd dau gant wyth deg ac wyth.
8. Bwriasant goelbrennau ynglŷn â'u dyletswyddau, ifanc a hen, athro a disgybl fel ei gilydd.
9. Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Joseff yr Asaffiad, ef a'i feibion a'i frodyr, deuddeg. Yr ail ar Gedaleia, ef a'i frodyr a'i feibion, deuddeg.
10. Y trydydd ar Saccur, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
11. Y pedwerydd ar Isri, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
12. Y pumed ar Nethaneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
13. Y chweched ar Bucceia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
14. Y seithfed ar Jesarela, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
15. Yr wythfed ar Jesaia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.