Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17:8-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear.

9. Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu yno heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt,

10. pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; darostyngaf dy holl elynion. Yr wyf yn dy hysbysu mai yr ARGLWYDD fydd yn adeiladu tŷ i ti.

11. Pan ddaw dy ddyddiau i ben, ac yn amser iti farw, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu o'th feibion, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn.

12. Ef fydd yn adeiladu tŷ i mi, a gwnaf finnau ei orsedd yn gadarn am byth.

13. Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi, ac ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth yr un oedd o'th flaen di.

14. Gosodaf ef yn fy nhŷ ac yn fy nheyrnas am byth; erys ei orsedd yn gadarn hyd byth.’ ”

15. Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef.

16. Yna fe aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, “Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod â mi hyd yma?

17. Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Dduw, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglŷn â theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a'm hystyried i'n llinach o ddynion dyrchafedig, O Arglwydd DDUW.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 17