Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 1:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl,

13. yn gymaint â'i bod wedi dod yn hysbys, trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar,

14. a bod y mwyafrif o'r cydgredinwyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddiofn.

15. Y mae'n wir fod rhai yn pregethu Crist o genfigen a chynnen, ac eraill o ewyllys da.

16. O gariad y mae'r rhain yn cyhoeddi Crist, gan wybod mai i amddiffyn yr Efengyl y gosodwyd fi yma,

17. ond y mae'r lleill yn gwneud hynny o gymhellion hunanol ac amhur, gan feddwl peri gofid imi yng ngharchar.

18. Ond pa waeth? Y naill ffordd neu'r llall, p'run ai mewn rhith ynteu mewn gwirionedd, y mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Ie, a gorfoleddu a wnaf hefyd,

19. oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth.

20. Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, p'run bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth.

21. Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 1