Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 6:17-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb,

18. fel nad pobl a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond yn hytrach dy Dad sydd yn y dirgel; a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.

19. “Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata.

20. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata.

21. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.

22. “Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael, bydd dy gorff yn llawn goleuni.

23. Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch!

24. “Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.

25. “Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad?

26. Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?

27. P'run ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu?

28. A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 6