Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 6:11-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;

12. a maddau inni ein troseddau,fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;

13. a phaid â'n dwyn i brawf,ond gwared ni rhag yr Un drwg.’

14. “Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi.

15. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.

16. “A phan fyddwch yn ymprydio, peidiwch â bod yn wynepdrist fel y rhagrithwyr; y maent hwy'n anffurfio eu hwynebau er mwyn i eraill gael gweld eu bod yn ymprydio. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.

17. Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb,

18. fel nad pobl a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond yn hytrach dy Dad sydd yn y dirgel; a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.

19. “Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata.

20. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata.

21. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.

22. “Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael, bydd dy gorff yn llawn goleuni.

23. Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch!

24. “Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.

25. “Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 6