Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. “Gwyddoch fod y Pasg yn dod ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i'w groeshoelio.”

3. Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas,

4. a chynllwyn i ddal Iesu trwy ddichell a'i ladd.

5. Ond dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl.”

6. Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26