Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 21:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, anfonodd Iesu ddau ddisgybl

2. gan ddweud wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf.

3. Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 21