Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14:9-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Aeth y brenin yn drist, ond oherwydd ei lw ac oherwydd ei westeion gorchmynnodd ei roi iddi,

10. ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.

11. Daethpwyd â'i ben ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth, ac aeth hi ag ef i'w mam.

12. Yna daeth ei ddisgyblion a mynd â'r corff ymaith a'i gladdu, ac aethant ac adrodd yr hanes wrth Iesu.

13. Pan glywodd Iesu, aeth oddi yno mewn cwch i le unig o'r neilltu. Ond clywodd y tyrfaoedd, a dilynasant ef dros y tir o'r trefi.

14. Pan laniodd Iesu, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iacháu eu cleifion hwy.

15. Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain.”

16. Meddai Iesu wrthynt, “Nid oes rhaid iddynt fynd ymaith. Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.”

17. Meddent hwy wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.”

18. Meddai yntau, “Dewch â hwy yma i mi.”

19. Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.

20. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.

21. Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 14