Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.

33. Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, “Yn wir, Mab Duw wyt ti.”

34. Wedi croesi'r môr daethant i dir yn Genesaret.

35. Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant â'r cleifion i gyd ato,

36. ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 14