Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Meddai yntau, “Dewch â hwy yma i mi.”

19. Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.

20. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.

21. Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 14